Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 1 Hydref 2020
Amser:
13.30 -
16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6520
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Yr Arglwydd Deben, UK Committee on Climate Change Hannah Dillon, Zero Carbon |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Sesiwn dystiolaeth 1 - Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd Deben, Cadeirydd, Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd.
3 Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Sesiwn dystiolaeth 2 - Zero Carbon
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hannah Dillon, Pennaeth Ymgyrch, Zero Carbon.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.2 Cytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn y llythyr o dan eitem 4.7
4.1 Ymateb Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i lythyr y Cadeirydd - Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU
4.2 Cyflwyniad ysgrifenedig gan yr Ymddiriedolaethau Natur Cymru - Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU
4.3 Cyflwyniad ysgrifenedig gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru - Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU
4.4 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Tlodi Tanwydd
4.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
4.6 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes mewn perthynas â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
4.7 Gohebiaeth rhwng Cymdeithas y Ffermwyr Tenant a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
4.8 Gohebiaeth at y Prif Weinidog gan Gyswllt Amgylchedd Cymru - Bioamrywiaeth
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3.